Thursday, 10 April 2014

Hedd Wyn - YR ARWR

I Yr Eneiniog   
WYLO anniddig dwfn fy mlynyddoedd
A'm gwewyr glyw-wyd ar lwm greigleoedd
      Canys Merch y Drycinoedd - oeddwn gynt:
Criwn ym mawrwynt ac oerni moroedd.

Dioer wylwn am na welwn fanwylyd,
Tywysog meibion gwlad desog mebyd,
      Pan nad oedd un penyd hyd - ein dyddiau,
Ac i'w rhuddem hafau cerddem hefyd.

Un hwyr pan heliodd niwl i'r panylau
Rwydi o wead dieithr y duwiau,
      Mi wybum weld y mab mau - yn troi'n rhydd
O hen fagwyrydd dedwydd ei dadau.

Y llanc a welwn trwy'r gwyll yn cilio
I ddeildre hudol werdd Eldorado,
      O'i ôl bu'r coed yn wylo, - a nentydd
Yn nhawch annedwydd yn ucheneidio.

Y macwy heulog, paham y ciliodd?
Ba ryw hud anwel o'm bro a'i denodd?
      Ei oed a'i eiriau dorrodd , - ac o'i drig
Ddiofal unig efe ddiflannodd.

A'i rhyw ddawn anwar oedd yn ei enaid?
Neu ynteu hiraeth am lawntiau euraid?
      O'i ôl mae bro'i anwyliaid - dan wyll trwch
Heb ei wên a'i degwch pur bendigaid.

Minnau o'i ôl yng nghymun awelon,
Troais i gwfert drysi ag afon,
      A churiwyd rhychau oerion - i'm deurudd,
Is tawch cywilydd a thristwch calon.

Twrf anniddan y gwynt ar fynyddau,
A gawr allwynin y wig ar llynnau,
      Udent ym mhyrth fy nwydau, - oni throes
Gerddi feinioes yn darth a griddfannau.

Un nos oer hunais yn sur ewynnau,
A gwenau aethus y lloergan hithau
      Hyd fy hirwallt fu oriau, - a'r crych pêr
Yn wylon dyner fel henoed dannau.

Yno mi gerddais tros drumau gwyrddion
I bau hir-ddedwydd ym mraich breuddwydion;
      Hiraeth nid oedd yr awron, - canys caid
Heulwennau euraid a thelynorion.

Yn y bau loyw hon roedd teml ysblennydd
O liwiau breuddwyd a haul boreddydd;
      Ac ar ei rhosliw geyrydd - roedd hwyliau
O wyn lumannau fel niwl y mynydd.

Oddi fewn gwelwn orsedd o fynor
Ac arni ogonaid ddi-gryn gynnor;
Ei lais mwyn fel su y môr, -    a'i dalaith
O wneuthuriad perffaith rhyw hud porffor.

Yno roedd duwiau cerdd a dyhewyd
A hoen ac asbri pob ieuanc ysbryd;
      Nid oedd w^r annedwydd hyd - y wenfro,
Ac ni bu yno o'r drwg nai benyd.

A dull y gwron di-wall a gerais
Ger allor heulog ar y llawr welais,
      Ac yn ei lyfn ysgawn lais - yr awron
Hud ag alawon uwch gwybod glywais.

Cans rhyw dduw â rhin ei fedr dewinol
I'w ganaid wefus roes egni dwyfol;
      A rhoed lliw disglair hudol - i'w enaid
O hafau euraid yr oes anfarwol.

A rhoed dyhewyd hendre y duwiau
Yn hud anorfod i'w danllyd nerfau,
      A chrisiant serch yr oesau - fel haen ddrud
O ryfedd olud ar ei feddyliau.

Ei law fynoraidd gariai lafn eurad
A heriai dras pob diras ei doriad,
      Ac ar ei harddaf safiad - gwelwn ddelw
Un allo farw i ennill ei fwriad.

Yna rhyw faddon o dân rhyfeddol
Welid yno trwy olau dewinol;
      Wedi hyn y mab denol - o'i fynwes
I hwnnw a fwries y duw anfarwol.

Codwyd y macwy, ac ymhen ennyd
Doi nodau hudol y duwn dywedyd:
      Y mab hwn fydd grym y byd, - a'i eiriau
Yn win y duwiau, yn dân dyhewyd.

"Gwn y bydd creulon droeon i'w drywydd,
A du iawn adwyth a byd annedwydd;
      Eithr efe athro a fydd, - yn nysg gêl
Y dyddiau anwel ar oed ddihenydd.

"Didlawd felyswawd y dwyfol oesau
Au gloywaf fiwsig lif o'i wefusau;
      Ac yn asur dig nosau - pawb a'i gwêl
Yn lloer dawel ac yn allur duwiau.

"Merchyg fel drycin ar flaen y trinoedd,
A baidd â'i anadl ysgwyd byddinoedd;
      Ei wy^s a chwâl lynghesoedd, - a'i nerth maith
Ofwya'n oddaith ar wyllt fynyddoedd.

"Geilw ar fywyd o'i benyd a'i boenau
I fyd didranc yr ieuanc foreau,
       Ar oes wen liw rhosynnau - ddaw yn ôl
Ar li anfarwol ei nwyf a'i eiriau.

"Er i helynt y gerrynt ei guro,
A bwrw ei hirnych o'r wybyr arno,
      Ni wêl hwn ddim a'i blino, - canys bydd
Awen y gwynddydd pellennig ynddo.

Rhyw ddydd llachar ofwya'r tyrfaoedd
I'w oed urddasol 'rôl dadwrdd oesoedd;
      Yna holl wae ei drinoedd - dry'n nerfus
Gân ar wefus moliannus ganrifoedd.

Tros wefus ddi-wrid y pyramidiau
Efe a lefair am ddwyfol hafau;
      Ac o'i lyfn gofgolofnau - efe fydd
Duw a thywysydd gorymdaith oesau."

Gwelwn y macwy mwy yn tramwyo
I'w henwlad irad yn ôl i dario;
    Ond ar hyd Eldorado - llu mwynllais
Yn dawnsio welais, a'r duw'n noswylio.

Galwyd finnau o 'mreuddwyd mawreddog
Gan wyntoedd oerfin cethrin ysgythrog;
      A chanai crych ewynog - ar y traeth
Ogonedd hiraeth fy mron gynddeiriog.

II Y Gw^r Gofidus.

Y gw^r mwynllais gerais gynt
Guriodd o gof i'r gerrynt,
Ac aeth o gof atgof oed
Moliangerdd mil o wingoed.

Rhyw welw rwyg rywelwr oedd
Ar hyn yn dod o'r trinoedd:
Nid oedd hud na golud gwyn
I'w grwm olwg, w^r melyn.
Yn ei wallt roedd chwaon hwyr
A nos enaid i'w synnwyr.
A thrwy'r fro oedd yno'n wen
Gan eira, freugaen oerwen,
Nid oedd w^r na channaid ddyn
I'w arddel, ledfyw furddyn.
Lliw drysau llwyd yr oesoedd
Hyd y trwm gardotwr oedd;
A chan ei dristed, dwedyd
Bwy oedd nid allai y byd;
I'w wedd roedd agwedd dreigiau
Welodd fil o ymladdfâu;
A thwrf alaeth rhyfeloedd
Yn y chwa o'i amgylch oedd.

Eithr o'i ing aruthr yngo
A diwyd iaith dwedai o:
"I'w hoed mewn cyflawn adeg
Y gelwais bob dyfais deg;
Ban gawn gynt ar helynt rwydd
Eurglod goruwch pob arglwydd,
Trigais yng nghanol golud
Aneddau aur bonedd hud,
Ac yn serch pob gwenferch gain
Lledais fy ngwenlliw adain;
Tithau a'm bwriaist weithion
O oedfa rwyg serch dy fron.
Heddiw 'rwyn dlawd anniddos,
Yn rhan o wynt chwerw y nos.

"Daear anghyffwrdd duwiau
Ac aml bell ddigwmwl bau
Lle na bu y gwyll yn bod
Diriais o'm mebyd erod
Erwau Valhala'r arwyr
Ar deg Eldorado w^yr.

"Sgrifennais a welais i
A phwyntil haul a phaent lili;
Gwisgais bob traith ag iaith gêl
Cewri'r pellterau cwrel,
A byd hardd pob gwybod hen
Dramwyais i drwym hawen;
A thrwy fil o athrofâu
Heliais i ti feddyliau;
Erod pob rhyw wybod ros
Anwyd om deall dinos.
Enwau'r sêr au niferoedd
A'u lliw yn nail fy llên oedd;
A thrwy drwm a dieithr drais
Erod pob gwyddor huriais.

"Fy nerthoedd tymestl oeddynt
Yn huodl gerdd Handel gynt;
Cenais drom oerlom hirlef
Uffern, a hoff eiriau nef,
A llawer clir gywir gân
O hawddfyd dyn a'i riddfan.

"Mae twrf gwyntoedd cymoedd cau
Yn hud ar fy nghaniadau,
A llam hoyw pob lli miwail
A su dwys isleisiau dail.
Tithau wrandewaist weithian
Fy angerdd, fy ngherdd, fy nghân;
A'r tâl mau fu treisiau trwm
Eiddig warthrudd a gorthrwm.

"A'm hewyd fu'n fflam awen
Mewn llawer i Homer hen;
Gwisgais bob cân â manaur
O geyrydd yr hwyrddydd aur;
Ac yn hedd y nos cawn wau
Soned o wrid rhosynnau;
Ac yn honno atgo hen
Holl hiraeth my^r y lloerwen.
.
"Cenais obaith maith fy myd
A hud ieuanc dyhewyd;
Yn fy ngherdd roedd angerdd wynt
Ac arogl mellt y gerrynt.
Fy awen i, - llef ddofn oedd,
A'i llais a glywr holl oesoedd;
A'r wobr fau fu treisiau trwm
A diarlwy fyd hirlwm.

"O bu ar lawer i baith
Firagl afar y gleifwaith,
Yn ei oddaith a'i weiddi,
Yn ei dân bum henaid i;
Ysgydwais ddur Arthur hen
A chawraidd freichiau Urien;
Am hoywlafn gwenfflam welwyd
Is tywyll oer gestyll llwyd:
Ffoai crin ffeils frenhinedd
Ar gyfyng hynt rhag fy ngwedd.

"Rhin claer pob cronicl euriaith
Yw cyni nghymhelri maith."

"Bûm yn ddraig pan godai gad
Aerwyr i'r trinoedd irad;
A bûm darian i'r gwan gynt
Ar draeth alaeth a helynt;
Ac ar fy rhydd gywir fron
Mae gwaed pob Armagedon.

"Od ymleddais ymgais oedd
Er ennill i ti rinoedd;
A'th ennill o byrth unig
Y nos ddofn a'i theyrnas ddig;
Ac ar y daith hirfaith oed
Lluniais rhag tywyll henoed
Hafod wen i'th fywyd di
O lelog teg a lili.

"Er dy fwyn bu'r crwydrad, ferch,
Trosot bu trinoedd traserch;
A throsot ti gweddîais
A haenau llosg yn fy llais.
Gwyddost, Wen, na fu gennyf
Un Iôn na fawn arno'n hyf.
Eithr daeth oer fâr i'th gariad
A niwl o fro anial frad;
Minnau, fu gynt ym mhenyd,
Yng nghymhelri'r cewri cyd,
A chwythaist o'th serch weithion
Ail ewyn deifl blaen y don.
Eithr ba waeth, ni fathr y byd
Actau ieuanc dyhewyd;
Gwedi cw^yn ac oed cyni,
I'r hafod wen cariaf di:
Yno cei fywn unbennes
Yng ngwlad hardd anneongl des."

"Ffo, w^r crin", ebe finnau,
"I rwyg fyd yr ogofâu,
O'th ôl mae maith ddialydd
O dremyn storm nos a dydd.
Gwell rhag llaw yw'r glaw ar glog
I ymhonnwr crwm heiniog;
Wr di-wawr, o'th garu di
Amarch fy mro f'ai imi".

Ynar gw^r brau garw ei bryd
Giliodd fel cwmwl gwywlyd
Efo'r gwynt cyforiog oedd
Yn cwyno'n niwl drycinoedd;
Eithr o'i ôl roedd dieithr hud
I'r nos amur yn symud.

III Y Merthyr

Yng nghwm fy ngwyll a nghamwedd - oedais i
      Ar rawd swrth amhuredd;
Ogylch doi wynt fy nrygedd
O ddinas ddu nos ddi-hedd.

Yno daeth rhyw chwerthin du - o lawer
      O greigleoedd pygddu;
Yntau noswynt yn nesu
Fal gawr oer neu ddieflig ru.

Ar hyn trwyr coedydd crinion - heibio daeth
      Wynebau du creulon,
    A nodau brad nwyd eu bron
    Yn eu mil ffurfiau moelion.

Yr ymhonnwr crwm yno - a welwn
      Mewn hualau'n rhodio;
    Ac olion ing ac wylo
    Oedd ar ei ddwys ddeurudd o.

Yn sw^n dig y coedwigoedd - a dirmyg
      Yr ystormus wyntoedd
    Holais ryw fab o'r niwloedd
    Ba oed o wae enbyd oedd.

"Ar antur fer," ebr yntau, - "y daeth gw^r
      Ar daith gêl o'r deau;
    Heno bydd. cwsg y bedd cau
    Ar ei wynion amrannau.
.
"Holai am ryw anwylyd - garodd gynt
      Is gwerdd gaer ei febyd;
    Er ei mwyn crwydrai mhenyd
    A duoer boen tlodi'r byd.

"Dwedai mai caethglud ydoedd - ei fun ef
      Yn niwl du ein tiroedd;
    Ac amu'r wynt y cymoedd,
    Ebr ef, tros ei llwybrau oedd.

"Er hon cydrhwng ein bryniau - ni ddorodd
      Ddyhirwawd i'r duwiau;
    A bu ofn pan glywai'r bau
    Lef ei ysol wefusau.

"Ei fun aethus fynnai weithion - o deml Oes ddideimlad greulon;
    I'w diroedd di-bryderon,
    I'w wlad deg tros emraid don.

"Gwaeau tost feiddiodd trosti, - o'i hachos
      Chwenychodd faith dlodi;
Ei harddwch gollodd erddi
A'i wrid oll i'w gwared hi.

"Eithr er drycin a thrinoedd - a chwerwedd
      Carcharau yr oesoedd
    I'w enaid nerth byddinoedd
    A gwayw dân i'w lygaid oedd.

"I'w neithior tros y moroedd - galwa'i wreng
      Gwelw rudd y mynyddoedd;
    Ar ei air tyrrai'r tiroedd -
    Rhuthr a chyrch anorthrech oedd.

"Deffrowyd y breuddwydion - a hunent
      Rhwng ein bryniau llwydion;
    A thorf aruthr o feirwon
    A fywheid gan y llef hon.

"Gadawent drig y duwiau - tua'r wawr
      Megis trin o ddreigiau:
    O'u hôl roedd sw^n dialau
    Yn holl byrth y dywell bau.

"Ar gw^r tros dduoer geyrydd - a orug
      Eu harwain o'u tywydd,
    Drwy chwyldro wen ysblennydd,
    I ryddid oes werdd ei dydd.

"Yno, ebr ef, cai fanon - ado'i hen
      Anghrediniaeth greulon;
    Duwiau'r hwyr o'i mynwes drôn,
    Eilwaith daw serch i'w chalon.

"Ond diarbed i'w erbyn - y duwiau
      Duon a godesyn;
    Heno bydd salm y bedd syn
    Yn torri trwy'i wallt hirwyn."
.
Yna y llais ddiflannodd, - ar hwyrwynt
      Trwy'r oror drist wylodd;
    A niwl du anaele dodd
    Lwyd dwyni y wlad danodd.

Eithr yn ddirgel rhywelais - heibio oer
      Aberoedd du tristlais;
    Ac i'r oed doi'r gw^r wawdiais
    Yngo fal hud angof lais.

Ar ei grog draw yn crogi - yn ei waed
      Gwelwn ef ar drengi;
    A'r awel oer a'i phêr li
    Hyd ei hirwallt yn torri.

Rhyw aethus lwydwawr weithion - hyd oror
      Y dwyrain diglion
    Dorrai fel ar arch dirion
    Y gw^r gaid ar y grog hon.

Un ennyd cyn ei huno - dywedodd:
      Diadwyth a drengo
    A dydd ei ddyhewyd o
    I'r awyr yn dwyreo.

"Wele, ferch, dyrchafael fydd, - yno tau
      Pob rhyw storm annedwydd;
    Ac i'r oed is y coedydd
    Cariad rhos o'i dranc hir drydd.
"
Dy enaid o'r gwyll dynnais ; - oth herwydd
      At ferthyron cerddais;
    Cans hiraeth meddf dy leddf lais
    Drwy gloiau dur a glywais.

"Ponid gwell ydyw'r poenau - ddaw a gwawr
      Tros brudd geyrydd oesau
    Na dewis breuglod duwiau
    Yn niwl y bell anial bau?

"Cyn hir fe'n hunir ninnau - ym mhaladr
      Y melyn foreau;
    Eisys mae llewych oesau
    Y deyrnas hud ar nesháu."

Weithion di-fraw y tawodd, - ar wawr oer
      Ar ei wallt chwaraeodd,
    A'i lydain lygaid lwydodd
    Yn y tarth cyfrin a'u todd.

Yna holais y niwloedd, - a hwythau
Y creithiog fynyddoedd,
Ai duw hud mewn oed ydoedd,
A'i rhyw wyllt ymhonnwr oedd?

.
IV Y Dyrchafael

A'r huan megis troell
O aur pur uwch y mÿr pell,
Llifodd ias boeth o draserch
I'm mynwes i o'm hen serch;
A llais ar ddull eosydd:
"Wele, ferch, dyrchafael fydd".

Yna wrth borth traeth y bau
Gwelwn sidanog hwyliau
Rhyw long o gwrel, a'i hynt
O deg orwel di gerrynt;
Ar ei bron roedd gw^r o bryd
Rhoslwyn, ag hirwallt dryslyd;
Ataf ei dremyn ytoedd,
A fenw i ar ei fin oedd.

Minnau gan hud a gludwyd
I'r llong ar y dyfnder llwyd;
Wedyn awelon gododd,
A hithau draw ymaith drodd.
O f'ôl roedd hen adfeilion
Yn oer a du ger y don;
Is eu lawnt roedd treisiol wÿr,
A thremyn hen orthrymwyr
Wanwyd gan y mab gwynwawr
Yn nydd mellt ei drinoedd mawr;
Pand yno bu caddug cau
Ac oed hen y cadwynau?

O'm blaen bryd hyn ymdaenai
Y lli mwyn fel mantell Mai;
Ac uwch y môr porffor pell
Weithian ar ddieithr draethell
Roedd cwmwl mawr liw gwawr gêl
Ceyrydd canrifoedd cwrel.
Cyn hir y llong a diries
Wrth ryw bau liw tonnau tes;
A swyn haf glas ei nefoedd
Dros ei thir fel dryswaith oedd,
A thremyn teml ddi-seml sud,
Wele, is coediog olud
Ac iddi o'r gellïoedd
Diri' dorf ar grwydrad oedd.
Ymlaen tua'r deml yno
Hyd erwau aur rhoddais dro,
A phob tlysni ynddi oedd
Fel yn hafal i nefoedd;
Ac ar orsedd unwedd haul
Ym mro hwyr y mÿr araul,
Anwylyd fy mebyd maith
Welwn mewn harddwch eilwaith;
Iddo roedd talaith ruddaur
O hudol sud deilios aur;
Ac i'r llawr rhag ei fawredd
Y syrthiais i wrth ei sedd.
Arglwydd, ebr fenaid, erglyw,
Dy ras eurad afrad yw;
Haeddiant i'th fyd ni feddaf,
Fy Iôr, a'm haneisior Naf,
Canys yn oriau'r cyni
Gwerthais a bradychais di;
Ac yn ing drycin angau
Tybiais ddiwedd dy wedd dau;
Eithr er craith byw eilwaith wyt,
Duw ar dud euraid ydwyt.

"Eilwaith i 'mron dychweli
Fel murmur pêr llawer lli;
Eilwaith 'rwyt ar heolydd
Yn fain rhos, yn fynor rhydd;
Gawr wen im ac utgorn wyt,
A rhi gwlad miragl ydwyt;
Ni ddawr trwy'r byd yr awran
Ond gwrid teg dy gariad tân."

Ar hyn fy arglwydd a drodd,
Ail llif hwyrwynt llefarodd:
"Yn y ddihedd hendre ddu
Gwelais dy drist fygylu;
A gwyliais aethog helynt
Dy gorff llesg is gormes gynt,
A'th serch fel tymestl erchyll
O uthr niwl a chethrin wyll,
A mil o ddu gymylau
Adwyth ag ing wedi'th gau,
Mal eiddig yr ymleddais,
Ac erod, ferch, curiwyd f'ais;
Rhyw isel gur islaw gwerth
Hebot f'ai poen fy aberth.

"Tithau a ddaethost weithion
I'r wlad o wull emrald hon,
Lle 'rwyf fi 'r ôl cyni cyd
Yn dduw pob cain ddyhewyd.

"I'm gwlad fwyn ddiallwynin
Ni ddaw trais na chwerwedd trin;
Canys ysbrydion cynnydd
Elwir i oed fy nheml rydd;
Yno tanllyd ysbryd wyf
A thad pob campwaith ydwyf;
A chyrch llongau'n dyrfâu fil
O dranc y duoer encil
I borth llawen dadeni
Ar amnaid fy enaid i.

"Pob cân anfarwol ganwyd
Ar wefus pob nerfus nwyd,
A brud hen ddiwygwyr bro,
A'u gwronwaith geir yno,
A phob gwae cudd ddatguddir
Yng ngwrid haf di-angred hir.

"Teyrn i'r bau er angau wyf,
A'i godidog hud ydwyf;
Awen ei llên dragywydd,
A'i hoesau aur ynof sydd;
Miliynau'r mellt melynion
I'r bys mau'n fodrwyau drôn;
Ac fel duw di-fraw, llawen,
Adeiniaf fyd y nef wen.

"Er maith sen Prometheus wyf,
Awdur pob deffro ydwyf,
Ar oes well wrth wawrio sydd
Ar dân o'm bri dihenydd."

Ar gw^r glew yno'n tewi,
Nid oedd yn fy enaid i
Onid wyneb a daniwyd
Yn nef pob anfarwol nwyd.

Tuesday, 7 June 2011

Englynion Cadwallon

Katwallawn kyn noe dyuot
ae gorue an digonot.
pedeir prifgat ar dec am brifdec brydein.
a thrugein kyuaruot.

Lluest catwallawn ar geint.
lloegyr ar dres armes etneint.
llaw dillwng ellwng oed vreint

Lluest gatwallawn ar ydon.
auar anwar yw alon.
llew lluydawc ar seasson.

Lluest gatwallawn glotryd.
yg gwarthaf digoll uynyd.
seithmis a seith gat beunyd.

Lluest gatwallawn ar hafren.
ac or tu draw y dygen.
[breitin] llosgi meigen.
Lluest gatwallawn ar wy.
maranned wedy mordwy.
a diliuat kat kylchwy.

Lluest gatwallawn ar ffynnawn uetwyr.
rac milwyr magei [iawn]
dangossei gynon [yno dawn].

Lluest gatwallawn ar daf.
ys lluossawc y gwelaf.
kywrennin [llu cat] vreisc naf.

Lluest gatwallawn ar dawy.
lleidyat adaf yn adwy.
clotryd keissydyd kestwy.

Lluest gatwallawn tra chaer.
kan bydin a channwr taer.
kan kat a thorri can kaer

Lluest gatwallawn ar gowyn.
llaw lludedic ar awyn.
gwyr lloegyr lluossawc eu kwyn

Lluest gatwallawn heno.
tra thir yn tymyr pennvro.
ani nawd uawr anhawd y ffo.

Lluest gatwallawn ar deiui.
kymysgei waet a heli.
angerd gwyned gwynyg[I].

Lluest gatwallawn ar dufyrd auon.
gwnaeth eryron yn llawn.
gwedy trin dynineu dawn.

Lluest gatwallawn vym brawt.
yg gwertheuin bro dunawt.
y uar annwar yn ffossawt.

Lluest gatwallawn ar ueirin.
llew lluossawc y werin.
twrwf mawr trachas y ordin.

O gyssul estrawn ac anghyfyawn ueneich
dillyd dwfyr o ffynnawn.
tru trwmdyd am gatwallawn.

Gwisgwys coet keindudet
haf. dybryssit gwyth wrth dyget
kyueruydom ny am eluet.

W.H.Davies - Leisure

What is this life if, full of care,
We have no time to stand and stare?—
No time to stand beneath the boughs,
And stare as long as sheep and cows:
No time to see, when woods we pass,
Where squirrels hide their nuts in grass:
No time to see, in broad daylight,
Streams full of stars, like skies at night:
No time to turn at Beauty's glance,
And watch her feet, how they can dance:
No time to wait till her mouth can
Enrich that smile her eyes began?
A poor life this if, full of care,
We have no time to stand and stare.

W.H.Davies - Sheep

When I was once in Baltimore
A man came up to me and cried,
"Come, I have eighteen hundred sheep,
And we will sail on Tuesday's tide.

If you will sail with me, young man,
I'll pay you fifty shillings down;
These eighteen hundred sheep I take
From Baltimore to Glasgow town."

He paid me fifty shillings down,
I sailed with eighteen hundred sheep;
We soon had cleared the harbour's mouth,
We soon were in the salt sea deep.

The first night we were out at sea
Those sheep were quiet in their mind;
The second night they cried with fear -
They smelt no pastures in the wind.

They sniffed poor things for their green fields,
They cried so loud I could not sleep:
For fifty thousand shillings down
I would not sail again with sheep.

Juvencus - The Nine Juvencus Englynion

Omnipotens auctor
Ti dicones adiamor
P...

Nit arcup betid hicouid
Canlon cetticeidin gui-- haguid
Uor --rdutou ti guirdoned

Dicones pater harimed
Presen isabruid icunmer
Nisacup m-- arwp leder

Dicones Ihesu dielimu
Pbetid aguirdou pendibu
Guot capaur anmer-- adu

Gur dicones remedau
Elbid aguirdou anguoraut
Niguru gnim nolim trinta[ut]

It cluis inban iciman
Guorsed ceinmicun ucmount ran
Ucatrintaut bean trident[an]

It cluis it humil inhared celmed
Rit pucsaun mi detrintaut
Gurd meint iconidid imolaut

Rit ercis o-- raut inadaut
Presen pioubui int groisauc
Inungueid guoled trintaut

Un hanied napuil heper
Uuc nem isnem nitcouer
Nit guorgnim molim mapmeir

Taliesin - Deus Duw Delwat

Deus duw delwat.
Gwledic gwaed neirthyat.
Crist Jessu gwyliat.
Rwysc rihyd amnat.
Aduelach kassat.
Nym gwnel heb ranned.
Moli dy trugared.
Ny dyfu yma.
Gwledic dy gynna
Ny dyfu ny dyfyd.
Neb kystal a douyd
Ny ganet yn dyd plwyw.
Neb kystal a Duw.
Nac nyt adef.
Neb kystal ac ef.
Vch nef is nef.
Nyt gwledic namyn ef.
Vch mor is mor.
Ef an crewys.
Pan dyffo dews.
Dyd brawt yn echwrys.
Kennadeu o drws.
Gwynt. a mor. a than.
Lluchet a tharyan.
Eiryf. ab gwengan.
Llwyth byt yg griduan.
Ergelawr. dygetawr llawhethan.
Ergelhawr mor a syr.
Pan discynho pater.
Y dadyl ae nifer.
A chyrn gopetror.
Ac ennynnu mor.
Llwyth byt lloscetawr.
Lloscawt ynyal ran
Rac y vawr varan.
Ef tynho aches
Rac y varanres.
Diffurn dyd reges.
Gwae ae harhose.
Ef tardho talawr.
Terdit nef y lawr.
Gwynt rud dygetawr.
Ech y gadwynawr.
Neu byt mor wastat
Mal pan great.
Seith pedyr ae dywawt.
Dayar diwarnawt.
Dywawt duw sadwrn
Dayar yn vn ffwrn.
Sadwrn vore rwyd.
in gwnaho ny culwyd.
Tir bydawt tywyd.
Gwynt y todo gwyd.
Ebryn pop dyhed.
Pan losco mynyded.
Atuyd triganed
A chryn rac rihed.
Kyfoethawc ae henuyn.
Mor. a tir. a llyn.
Atuyd cryn dygryn.
A dayar gychwyn.
Ac uch pop mehyn.
A marw mein uudyn.
Eryf argelwch.
Ac enynnu llwch
Ton aghyolwch.
Taryan ymrythwch.
Teithyawc afar.
Ac eryf trwy alar.
Ac enynnu trwy var
Rwg nef a dayar.
Pan dyffo trindawt
Ymaes maestawt.
Llu nef ymdanaw.
Llwyth llydan attaw.
Kyrd a cherdoryon
A chathleu egylyon.
Drychafant o vedeu.
Eirant o dechreu.
Eirant kwu coet.
Ar gymeint adoet.
A rewinywys mor.
A wnant mawr gawr.
Pryt pan dyffo
Ef ae gwahano.
Y sawl a uo meu.
Ymchaelent y perthgled.
Ponyt erlys dy gyfreu.
A lefeir dy eneu
Dy vynet yn du hynt yn nanheu
Yn tywyll heb leuuereu.
Ac ym oed y ereu.
Ac ym oed i ieitheu.
Ac ym oed i ganwlat
Ac eu cant lloneit.
Canuet gwlat pressent.
Ny bum heb gatwent.
Oed mynych kyfar chwerw
y rof eim kefynderw.
Oed mynych kyrys cwydat
Y rof y am kywlat.
Oed mynych kyflafan.
Y rofi ar truan.
Am goryw hwn vyth.
Nym gwnaei dyn byth.
Am gyrwys ygcroc
A wydwn yn oc.
Am gyrrwys ym pren.
Dipynwys vympen.
Tafaw ti vyn deutroet.
Mor tru eu hadoet.
Tanaw dyr boenet.
Escyrn vyn traet.
Tauaw dy vyn dwy vreich
Ny ny dybyd eu beich.
Tauaw dy vyn dwy yscwyd.
Handit mor dyuyd.
Tauaw dyr cethron
Ymy wn vyg callon.
Tauaw dy gethawt.
Y rwg vyn deu lygat.
Tauaw yr da allat
Coron drein ym iat.
Tauaw dy oestru
A wanpwyt vyn tu.
Teu yw chitheu.
Mal yr ywch llaw deheu.
Iwch ny byd madeu
Vy gwan a bereu.
A wledic ny wydyein.
Pan oed ti a grogein.
Gwledic nef gwledic pop tut
Ny wydein ni grist tut vyhut.
Bei ath wybydein.
Crist athathechein.
Nyt aruollir gwat
Gan lwyth eissyfflat.
Digonsawchi anuat
Yn erbyn dofydyat.
Can mil egylyon
Yssyd imi yn tyston.
A doeth ym kyrchaw
Gwedy vyg crogaw.
Ygcroc yn greulet.
Myhun ym gwaret.
Yn nefoed bu cryt.
Pan ym crogyssit.
Pan orelwisk eli
Dy culwyd vch keli.
A chenwch deu ieuan
Ragof y deu gynran.
A deu lyfyr yn ach llaw
Yn eu darlleaw.
Nys deubi ryrys
Rygosswy rygossys.
Ac awch bi wynnyeith
Gwerth awch ynuyt areith.
Kayator y dyleith
Arnawch y vffern lleith
Crist Jessu uchel ryseilas trychamil blwydyned
Er pan yttyw ym buched.
Ac eil mil kyn croc.
Yt lewychi enoc.
Neu nyt atwen drut
Meint eu heissillut.
Gwlat pressent yth ermut.
A chut awch bei odit.
Trychan mil blwydyned namyn vn
Oricodit buched tragywyd.

Taliesin - Aduvyneu Taliesin

Atwyn rin rypenyt y ryret;
Arall atwyn pan vyd Duw dymgwaret.
Atwyn kyfed rwy gomed gogyffret;
Arall atwyn y am kyrn kyfyfet.
Atwyn Nud ud, bleid [blae]naf;
Arall atwyn hael gwyl golystaf.
Atwyn aeron yn amser kynhayaf;
Arall atwyn gwenith ar galaf.
Atwyn heul yn ehwybyr yn nwyfre;
Arall atwyn rythalhwyr ae de.
Atwyn march mygvras mangre;
Arall atwyn dylif yg gwe.
Atwyn chwant ac aryant amaerwy;
Arall atwyn dy vorwyn modrwy.
Atwyn eryr ar lan llyr pan llanhwy;
Arall atwyn gwylein yn gwarwy.
Atwyn march ac eurgalch gylchwy;
Arall atwyn aduwyn yn adwy.
Atwyn Eynawn, medic y liaws;
Arall atwyn kerdawr hael hygnaws.
Atwyn Mei y gogeu ac eaws;
Arall atwyn pan vyd hin haws.
Atwyn reith a pherpheith neithawr;
Arall atwyn kyflwyn a garhawr.
Atwyn bryt wrth penyt periglawr;
Arall atwyn dydwyn y allawr.
Atwyn med yg kynted y gerdawr;
Arall atwyn am terwyn toryf vawr.
Atwyn cleric catholic yn eglwys;
Arall atwyn [h]enefyd yn neuadwys.
Atwyn plwyf kymrwy Dwy a towys;
Arall atwyn yn amser Paradwys.
Atwyn lloer llewychawt yn eluyd;
Arall atwyn pan vyd da dymgofyd.
Atwyn haf ac araff hirdyd
Arall atwyn athreidaw a geryd.
Atwyn blodeu ar warthaf perwyd;
Arall atwyn a Chreawdyr kerenhyd.
Atwyn didryf ewic ac elein;
Arall atwyn ewynawc archuein
Atwyn lluarth pan llwyd y genhin;
Atwyn arall katawarth yn egin
Atwyn edystyr yg kebystyr lletrin;
Arall atwyn kyweithas a brenhin.
Atwyn glew nwy goleith gogywec;
Arall atwyn ellëin Gymräec.
Atwyn gruc pan vyd ehöec;
Arall atwyn morua y warthec.
Atwyn tymp pan dyn lloe laeth;
Arall atwyn ewynawc marchogaeth.
Ac ys imi atwyn nyt gwaeth:
Atwyn llat bual wrth tal meduaeth.
Atwyn pysc yn y lyn llywyawt;
arall atwyn goreil liw gwaryhawt.
Atwyn geir a lefeir y Trindawt;
Arall atwyn rypenyt y pechawt.
Aduwynhaf o'r aduwyndawt:
Kerenhyd a Dofyd Dyd Brawt.