Hydr y gwddost, ail Indeg,
Hoedl i'th dâl, hudoliaeth deg,
Hoed a'm deily, hud a'm dilyn,
Hoyw dy dwf, er hudo dyn.
Gwaith pell o fewn gloywgell gled
Dy dreisio rhag dy drawsed.
Na ffo, cyfaro, forwyn,
Nid rhaid brys i'r llys o'r llwyn.
Trwyddedwraig llen bedwenni,
Trig a dyhudd, Forfudd, fi.
O doi i'r fedwgell bellach,
Fy nyn bychanigyn bach,
Nid ai drachefn, wiwdrefn wych,
Mawl a dâl, mal y delych.
Dygn na allaf dy atal,
Dy gaeth wyf, ddyn deg ei thâl;
Tost na allaf, rymaf rin,
Dy orlludd dan do eurllin.
Ni'th ddwg tynged o'th fedydd
Mal y'th ddug oed ymhlith gwŷdd.
Dyred o'm colled i'm cael
Lle'r addewaist, lloer dduael;
F'ewyllys ystrywus drud
A'i dialai be delud,
D'ymlid heb gael proffid prudd,
Ni chaf arfod, och Forfudd!
Dos, f'un enaid, yn gwbliach,
A Duw'n borth yt, y dyn bach.
Dos yn iach, gadarnach ged,
Dengoch fyfy o'r dynged.
Yn iach, y dyn bach, dawn byd,
Ac annerch dy hun gennyd.
No comments:
Post a Comment