Monday, 6 June 2011

Iolo Goch - Llys Owain Glyndwr yn Sycharth

Addewais yt hyn ddwywaith,
Addewid teg, addo taith;.
Taled bawb, tal hyd y bo,
Ei addewid a addawo.
Pererindawd, ffawd ffyddlawn,
Perwyl mor annwyl mawr iawn,
Myned, eidduned oddain,
Lles yw, tua llys Owain.
Yn oddain yno ydd af,
Nid drwg, yno y trigaf
I gymryd i'm bywyd barch
Gydag ef o gydgyfarch;
Fo all fy naf, uchaf ach,
Eurben clear, erbyn cleiriach;
Clod bod, cyd boed alusen,
Ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen.
I'w lys ar ddyfrys ydd af,
O'r deucant odidocaf;.
Llys barwn, lle syberwyd,
Lle daw beirdd aml, lle da byd.
Gwawr Bowys fawr, beues Faig,
Gofuned gwiw ofynaig.

Llyna'r modd a'r llun y mae:
Mewn eurgylch dwfr mewn argae.
(Pand da'r llys?) pont ar y llyn,
Ac unporth lle'r ai ganpyn;
Cyplau sydd, gwaith cwplws ynt,
Cwpledig pob cwpl ydynt.
Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Clostr Wesmustr, clostir emswyth;
Cynglynrhwym pob congl unrhyw,
Cangell aur, cygan oll yw.
Cynglynion yn y fronfron fry,
Dordor megis daeardy,
A phob un fal llun llyngwlm
Sydd yn ei gilydd yn gwlm.
Tai nawplad fold deunawplas,
Tai pren glan mewn top bryn glas;
Ar bedwar piler eres
Mae'i lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adeilgraff,
A'r pedair llofft, o hoffter,
Yn gydgwplws lle cwag cler.
Aeth y pedair disgleirlofft,
Nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft;
To teils ar bob ty talwg,
A simnai lle magai'r mwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw gwardrob ar bob un.
Siopau glan, glwys cynnwys cain,
Siop lawndeg fal Siep Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
Popty llawn poptu I'r llys,
Perllan, gwinllan, ger gwenllys,
Melin deg ar ddifreg ddwr;
A'i glomendy gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw heyday
Amlaf lle, nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw.
A'I dir bwrdd a'i adar byw,
Peunod, crehyrod hoywryw,
Dolydd glan gwyran a gwair,
Ydau mewn caeau cywair,
Parc cwning ein por cenedl,
Erydr a meirch hydr, mawr chwedl;
Gerllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;
Ei gaith a wna pob gwaith gwiw,
Cyfreidiau cyfair ydiw,
Dwyn blaendrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau, bragodau brig,
Pob llyn, bara gwyn a gwin,
A'I gig, a'i dan i'w gegin;
Pebyll y beirdd pawb lle bo,
Pe beunydd caiff pawb yno;
Tecaf llys bren, pen heb bai,
O‘r deyrnas, nawdd Duw arnai;.
A awraig orau o'r garaged
Gwyn fy myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur llin marchoglyw,
Urddol hael anianol yw;.
A'i blant a ddeuant bob ddau,
Nythaid teg o beneath.

Anfynych iawn fu yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
Ni bydd eisiau budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth.
Gorau Cymro, tro trylew
Piau'r wlad, lin Pywer Lew,
Gwr meingryf, gorau mangre,
A phial'r llys; hoff yw'r lle.

No comments:

Post a Comment