Monday, 6 June 2011

Hedd Wyn - Y Gŵr Gofidus

Y gŵr mwynllais gerais gynt
Guriodd o gof i'r gerrynt,
Ac aeth o gof atgof oed
Moliangerdd mil o wingoed.

Rhyw welw rwyg rywelwr oedd
Ar hyn yn dod o'r trinoedd:
Nid oedd hud na golud gwyn
I'w grwm olwg, ŵr melyn.
Yn ei wallt roedd chwaon hwyr
A nos enaid i'w synnwyr.
A thrwy'r fro oedd yno'n wen
Gan eira, freugaen oerwen,
Nid oedd ŵr na channaid ddyn
I'w arddel, ledfyw furddyn.
Lliw drysau llwyd yr oesoedd
Hyd y trwm gardotwr oedd;
A chan ei dristed, dwedyd
Bwy oedd nid allai y byd;
I'w wedd roedd agwedd dreigiau
Welodd fil o ymladdfâu;
A thwrf alaeth rhyfeloedd
Yn y chwa o'i amgylch oedd.

Eithr o'i ing aruthr yngo
A diwyd iaith dwedai o:
"I'w hoed mewn cyflawn adeg
Y gelwais bob dyfais deg;
Ban gawn gynt ar helynt rwydd
Eurglod goruwch pob arglwydd,
Trigais yng nghanol golud
Aneddau aur bonedd hud,
Ac yn serch pob gwenferch gain
Lledais fy ngwenlliw adain;
Tithau a'm bwriaist weithion
O oedfa rwyg serch dy fron.
Heddiw 'rwyn dlawd anniddos,
Yn rhan o wynt chwerw y nos.

"Daear anghyffwrdd duwiau
Ac aml bell ddigwmwl bau
Lle na bu y gwyll yn bod
Diriais o'm mebyd erod
Erwau Valhala'r arwyr
Ar deg Eldorado ŵyr.

"Sgrifennais a welais i
A phwyntil haul a phaent lili;
Gwisgais bob traith ag iaith gêl
Cewri'r pellterau cwrel,
A byd hardd pob gwybod hen
Dramwyais i drwym hawen;
A thrwy fil o athrofâu
Heliais i ti feddyliau;
Erod pob rhyw wybod ros
Anwyd om deall dinos.
Enwau'r sêr au niferoedd
A'u lliw yn nail fy llên oedd;
A thrwy drwm a dieithr drais
Erod pob gwyddor huriais.

"Fy nerthoedd tymestl oeddynt
Yn huodl gerdd Handel gynt;
Cenais drom oerlom hirlef
Uffern, a hoff eiriau nef,
A llawer clir gywir gân
O hawddfyd dyn a'i riddfan.

"Mae twrf gwyntoedd cymoedd cau
Yn hud ar fy nghaniadau,
A llam hoyw pob lli miwail
A su dwys isleisiau dail.
Tithau wrandewaist weithian
Fy angerdd, fy ngherdd, fy nghân;
A'r tâl mau fu treisiau trwm
Eiddig warthrudd a gorthrwm.

"A'm hewyd fu'n fflam awen
Mewn llawer i Homer hen;
Gwisgais bob cân â manaur
O geyrydd yr hwyrddydd aur;
Ac yn hedd y nos cawn wau
Soned o wrid rhosynnau;
Ac yn honno atgo hen
Holl hiraeth mŷr y lloerwen.

"Cenais obaith maith fy myd
A hud ieuanc dyhewyd;
Yn fy ngherdd roedd angerdd wynt
Ac arogl mellt y gerrynt.
Fy awen i, - llef ddofn oedd,
A'i llais a glywr holl oesoedd;
A'r wobr fau fu treisiau trwm
A diarlwy fyd hirlwm.

"O bu ar lawer i baith
Firagl afar y gleifwaith,
Yn ei oddaith a'i weiddi,
Yn ei dân bum henaid i;
Ysgydwais ddur Arthur hen
A chawraidd freichiau Urien;
Am hoywlafn gwenfflam welwyd
Is tywyll oer gestyll llwyd:
Ffoai crin ffeils frenhinedd
Ar gyfyng hynt rhag fy ngwedd.

"Rhin claer pob cronicl euriaith
Yw cyni nghymhelri maith."

"Bûm yn ddraig pan godai gad
Aerwyr i'r trinoedd irad;
A bûm darian i'r gwan gynt
Ar draeth alaeth a helynt;
Ac ar fy rhydd gywir fron
Mae gwaed pob Armagedon.


"Od ymleddais ymgais oedd
Er ennill i ti rinoedd;
A'th ennill o byrth unig
Y nos ddofn a'i theyrnas ddig;
Ac ar y daith hirfaith oed
Lluniais rhag tywyll henoed
Hafod wen i'th fywyd di
O lelog teg a lili.

"Er dy fwyn bu'r crwydrad, ferch,
Trosot bu trinoedd traserch;
A throsot ti gweddîais
A haenau llosg yn fy llais.
Gwyddost, Wen, na fu gennyf
Un Iôn na fawn arno'n hyf.
Eithr daeth oer fâr i'th gariad
A niwl o fro anial frad;
Minnau, fu gynt ym mhenyd,
Yng nghymhelri'r cewri cyd,
A chwythaist o'th serch weithion
Ail ewyn deifl blaen y don.
Eithr ba waeth, ni fathr y byd
Actau ieuanc dyhewyd;
Gwedi cŵyn ac oed cyni,
I'r hafod wen cariaf di:
Yno cei fywn unbennes
Yng ngwlad hardd anneongl des."

"Ffo, ŵr crin", ebe finnau,
"I rwyg fyd yr ogofâu,
O'th ôl mae maith ddialydd
O dremyn storm nos a dydd.
Gwell rhag llaw yw'r glaw ar glog
I ymhonnwr crwm heiniog;
Wr di-wawr, o'th garu di
Amarch fy mro f'ai imi".

Ynar gŵr brau garw ei bryd
Giliodd fel cwmwl gwywlyd
Efo'r gwynt cyforiog oedd
Yn cwyno'n niwl drycinoedd;
Eithr o'i ôl roedd dieithr hud
I'r nos amur yn symud.

No comments:

Post a Comment