Mae’r cyrn yn mygu er pob awel groes,
A rhywun yno weithiau’n‘sgubo’r llawr
Ac agor y ffenestri, er nad oes
Neb yno’n byw ar ôl y chwalfa fawr;
Dim ond am fis o wyliau, mwy neu lai,
Yn Awst, er mwyn cael seibiant bach o’r dre
A throi o gwmpas dipyn, nes bod rhai
Yn synnu’n gweld yn symud hyd y lle;
A phawb yn holi beth sy’n peri o hyd
I ni, sydd wedi colli tad a mam,
Gadw’r hen le, a ninnau hyd y byd,-
Ond felly y mae-hi, ac ni wn pam,
Onid rhag ofn i’r ddau sydd yn y gro
Synhwyro rywsut fod y drws ynghlo.
No comments:
Post a Comment