Yng nghwm fy ngwyll a nghamwedd - oedais i
Ar rawd swrth amhuredd;
Ogylch doi wynt fy nrygedd
O ddinas ddu nos ddi-hedd.
Yno daeth rhyw chwerthin du - o lawer
O greigleoedd pygddu;
Yntau noswynt yn nesu
Fal gawr oer neu ddieflig ru.
Ar hyn trwyr coedydd crinion - heibio daeth
Wynebau du creulon,
A nodau brad nwyd eu bron
Yn eu mil ffurfiau moelion.
Yr ymhonnwr crwm yno - a welwn
Mewn hualau'n rhodio;
Ac olion ing ac wylo
Oedd ar ei ddwys ddeurudd o.
Yn sŵn dig y coedwigoedd - a dirmyg
Yr ystormus wyntoedd
Holais ryw fab o'r niwloedd
Ba oed o wae enbyd oedd.
"Ar antur fer," ebr yntau, - "y daeth gŵr
Ar daith gêl o'r deau;
Heno bydd. cwsg y bedd cau
Ar ei wynion amrannau.
"Holai am ryw anwylyd - garodd gynt
Is gwerdd gaer ei febyd;
Er ei mwyn crwydrai mhenyd
A duoer boen tlodi'r byd.
"Dwedai mai caethglud ydoedd - ei fun ef
Yn niwl du ein tiroedd;
Ac amu'r wynt y cymoedd,
Ebr ef, tros ei llwybrau oedd.
"Er hon cydrhwng ein bryniau - ni ddorodd
Ddyhirwawd i'r duwiau;
A bu ofn pan glywai'r bau
Lef ei ysol wefusau.
"Ei fun aethus fynnai weithion - o deml
Oes ddideimlad greulon;
I'w diroedd di-bryderon,
I'w wlad deg tros emraid don.
"Gwaeau tost feiddiodd trosti, - o'i hachos
Chwenychodd faith dlodi;
Ei harddwch gollodd erddi
A'i wrid oll i'w gwared hi.
"Eithr er drycin a thrinoedd - a chwerwedd
Carcharau yr oesoedd
I'w enaid nerth byddinoedd
A gwayw dân i'w lygaid oedd.
"I'w neithior tros y moroedd - galwa'i wreng
Gwelw rudd y mynyddoedd;
Ar ei air tyrrai'r tiroedd -
Rhuthr a chyrch anorthrech oedd.
"Deffrowyd y breuddwydion - a hunent
Rhwng ein bryniau llwydion;
A thorf aruthr o feirwon
A fywheid gan y llef hon.
"Gadawent drig y duwiau - tua'r wawr
Megis trin o ddreigiau:
O'u hôl roedd sŵn dialau
Yn holl byrth y dywell bau.
"Ar gŵr tros dduoer geyrydd - a orug
Eu harwain o'u tywydd,
Drwy chwyldro wen ysblennydd,
I ryddid oes werdd ei dydd.
"Yno, ebr ef, cai fanon - ado'i hen
Anghrediniaeth greulon;
Duwiau'r hwyr o'i mynwes drôn,
Eilwaith daw serch i'w chalon.
"Ond diarbed i'w erbyn - y duwiau
Duon a godesyn;
Heno bydd salm y bedd syn
Yn torri trwy'i wallt hirwyn."
Yna y llais ddiflannodd, - ar hwyrwynt
Trwy'r oror drist wylodd;
A niwl du anaele dodd
Lwyd dwyni y wlad danodd.
Eithr yn ddirgel rhywelais - heibio oer
Aberoedd du tristlais;
Ac i'r oed doi'r gŵr wawdiais
Yngo fal hud angof lais.
Ar ei grog draw yn crogi - yn ei waed
Gwelwn ef ar drengi;
A'r awel oer a'i phêr li
Hyd ei hirwallt yn torri.
Rhyw aethus lwydwawr weithion - hyd oror
Y dwyrain diglion
Dorrai fel ar arch dirion
Y gŵr gaid ar y grog hon.
Un ennyd cyn ei huno - dywedodd:
Diadwyth a drengo
A dydd ei ddyhewyd o
I'r awyr yn dwyreo.
"Wele, ferch, dyrchafael fydd, - yno tau
Pob rhyw storm annedwydd;
Ac i'r oed is y coedydd
Cariad rhos o'i dranc hir drydd."
Dy enaid o'r gwyll dynnais ; - oth herwydd
At ferthyron cerddais;
Cans hiraeth meddf dy leddf lais
Drwy gloiau dur a glywais.
"Ponid gwell ydyw'r poenau - ddaw a gwawr
Tros brudd geyrydd oesau
Na dewis breuglod duwiau
Yn niwl y bell anial bau?
"Cyn hir fe'n hunir ninnau - ym mhaladr
Y melyn foreau;
Eisys mae llewych oesau
Y deyrnas hud ar nesháu."
Weithion di-fraw y tawodd, - ar wawr oer
Ar ei wallt chwaraeodd,
A'i lydain lygaid lwydodd
Yn y tarth cyfrin a'u todd.
Yna holais y niwloedd, - a hwythau
Y creithiog fynyddoedd,
Ai duw hud mewn oed ydoedd,
A'i rhyw wyllt ymhonnwr oedd?
No comments:
Post a Comment