Ei serch a roes merch i mi,
Seren cylch Nantyseri,
Morwyn wych, nid ym marn au,
Morfudd ŵyl, mawr feddyliau.
Cyd collwyf o wiwnwyf uthr
Fy anrhaith a fu iawnrhuthr,
Cyd bu brid ein newid ni,
Prid oedd i'r priod eiddi.
Eithr rhag anfodd, uthr geinfyw,
Duw fry, diedifar yw,
Gwedy i'i chariad brad fu'r braw,
Lloer byd, rhoi llw ar beidiaw.
O cherais wraig mewn meigoel
Wrth lyn y porthmonyn moel,
Gwragennus esgus osgordd,
Gwraig, rhyw benaig, Robin Nordd,
Elen chwannog i olud,
Fy anrhaith â'r lediaith lud,
Brenhines, arglwyddes gwlân,
Brethyndai bro eithindan,
Dyn serchog oedd raid yno.
Gwae hi nad myfi fai fo!
Ni chymer hon, wiwdon wedd,
Gerdd yn rhad, gwrdd anrhydedd.
Hawdd oedd gael, gafael gyfa',
Haws no dim, hosanau da.
Ac os caf liw gwynnaf gwawn,
O fedlai y'm gwnâi'n fodlawn.
Nid ydwyf, nwyf anofal,
Rho Duw, heb gaffael rhyw dâl
Ai ar eiriau arwyrain
Ai ar feddwl cerddgar cain,
Ai â'r aur, cyd diheurwyf,
Ai ar ryw beth. Arab wyf.
Hefyd cyd bo fy nhafawd
I Ddyddgu yn gwëu gwawd,
Nid oes ym, myn Duw, o swydd
Ond olrhain anwadalrhwydd.
Gwawr brenhiniaeth, maeth â'i medd,
Y byd ŵyr, yw'r bedwaredd.
Ni chaiff o'm pen cymen call,
Hoen geirw, na hi nac arall
Na'i henw na'r wlad yr hanoedd,
Hoff iawn yw, na pha un oedd.
Nid oes na gwraig, benaig nwyf,
Na gŵr cimin a garwyf
Â'r forwyn glaer galchgaer gylch.
Nos da iddi nis diylch.
Cair gair o garu'n ddiffrwyth.
Caf, nid arbedaf fi, bwyth.
Be gwypai, gobaith undyn,
Mae amdani hi fai hyn,
Bai cynddrwg, geinwen rudd-deg,
Genthi â'i chrogi wych reg.
Mwy lawnbwys mau elynboen,
Moli a wnaf hi, Nyf hoen,
Hoyw ei llun, a holl Wynedd
A'i mawl. Gwyn ei fyd a'i medd!
No comments:
Post a Comment