A'r huan megis troell
O aur pur uwch y mÿr pell,
Llifodd ias boeth o draserch
I'm mynwes i o'm hen serch;
A llais ar ddull eosydd:
"Wele, ferch, dyrchafael fydd".
Yna wrth borth traeth y bau
Gwelwn sidanog hwyliau
Rhyw long o gwrel, a'i hynt
O deg orwel di gerrynt;
Ar ei bron roedd gŵr o bryd
Rhoslwyn, ag hirwallt dryslyd;
Ataf ei dremyn ytoedd,
A fenw i ar ei fin oedd.
Minnau gan hud a gludwyd
I'r llong ar y dyfnder llwyd;
Wedyn awelon gododd,
A hithau draw ymaith drodd.
O f'ôl roedd hen adfeilion
Yn oer a du ger y don;
Is eu lawnt roedd treisiol wÿr,
A thremyn hen orthrymwyr
Wanwyd gan y mab gwynwawr
Yn nydd mellt ei drinoedd mawr;
Pand yno bu caddug cau
Ac oed hen y cadwynau?
O'm blaen bryd hyn ymdaenai
Y lli mwyn fel mantell Mai;
Ac uwch y môr porffor pell
Weithian ar ddieithr draethell
Roedd cwmwl mawr liw gwawr gêl
Ceyrydd canrifoedd cwrel.
Cyn hir y llong a diries
Wrth ryw bau liw tonnau tes;
A swyn haf glas ei nefoedd
Dros ei thir fel dryswaith oedd,
A thremyn teml ddi-seml sud,
Wele, is coediog olud
Ac iddi o'r gellïoedd
Diri' dorf ar grwydrad oedd.
Ymlaen tua'r deml yno
Hyd erwau aur rhoddais dro,
A phob tlysni ynddi oedd
Fel yn hafal i nefoedd;
Ac ar orsedd unwedd haul
Ym mro hwyr y mŷr araul,
Anwylyd fy mebyd maith
Welwn mewn harddwch eilwaith;
Iddo roedd talaith ruddaur
O hudol sud deilios aur;
Ac i'r llawr rhag ei fawredd
Y syrthiais i wrth ei sedd.
Arglwydd, ebr fenaid, erglyw,
Dy ras eurad afrad yw;
Haeddiant i'th fyd ni feddaf,
Fy Iôr, a'm haneisior Naf,
Canys yn oriau'r cyni
Gwerthais a bradychais di;
Ac yn ing drycin angau
Tybiais ddiwedd dy wedd dau;
Eithr er craith byw eilwaith wyt,
Duw ar dud euraid ydwyt.
"Eilwaith i 'mron dychweli
Fel murmur pêr llawer lli;
Eilwaith 'rwyt ar heolydd
Yn fain rhos, yn fynor rhydd;
Gawr wen im ac utgorn wyt,
A rhi gwlad miragl ydwyt;
Ni ddawr trwy'r byd yr awran
Ond gwrid teg dy gariad tân."
Ar hyn fy arglwydd a drodd,
Ail llif hwyrwynt llefarodd:
"Yn y ddihedd hendre ddu
Gwelais dy drist fygylu;
A gwyliais aethog helynt
Dy gorff llesg is gormes gynt,
A'th serch fel tymestl erchyll
O uthr niwl a chethrin wyll,
A mil o ddu gymylau
Adwyth ag ing wedi'th gau,
Mal eiddig yr ymleddais,
Ac erod, ferch, curiwyd f'ais;
Rhyw isel gur islaw gwerth
Hebot f'ai poen fy aberth.
"Tithau a ddaethost weithion
I'r wlad o wull emrald hon,
Lle 'rwyf fi 'r ôl cyni cyd
Yn dduw pob cain ddyhewyd.
"I'm gwlad fwyn ddiallwynin
Ni ddaw trais na chwerwedd trin;
Canys ysbrydion cynnydd
Elwir i oed fy nheml rydd;
Yno tanllyd ysbryd wyf
A thad pob campwaith ydwyf;
A chyrch llongau'n dyrfâu fil
O dranc y duoer encil
I borth llawen dadeni
Ar amnaid fy enaid i.
"Pob cân anfarwol ganwyd
Ar wefus pob nerfus nwyd,
A brud hen ddiwygwyr bro,
A'u gwronwaith geir yno,
A phob gwae cudd ddatguddir
Yng ngwrid haf di-angred hir.
"Teyrn i'r bau er angau wyf,
A'i godidog hud ydwyf;
Awen ei llên dragywydd,
A'i hoesau aur ynof sydd;
Miliynau'r mellt melynion
I'r bys mau'n fodrwyau drôn;
Ac fel duw di-fraw, llawen,
Adeiniaf fyd y nef wen.
"Er maith sen Prometheus wyf,
Awdur pob deffro ydwyf,
Ar oes well wrth wawrio sydd
Ar dân o'm bri dihenydd."
Ar gŵr glew yno'n tewi,
Nid oedd yn fy enaid i
Onid wyneb a daniwyd
Yn nef pob anfarwol nwyd.
No comments:
Post a Comment