Wylo anniddig dwfn fy mlynyddoedd
A'm gwewyr glyw-wyd ar lwm greigleoedd
Canys Merch y Drycinoedd - oeddwn gynt:
Criwn ym mawrwynt ac oerni moroedd.
Dioer wylwn am na welwn fanwylyd,
Tywysog meibion gwlad desog mebyd,
Pan nad oedd un penyd hyd - ein dyddiau,
Ac i'w rhuddem hafau cerddem hefyd.
Un hwyr pan heliodd niwl i'r panylau
Rwydi o wead dieithr y duwiau,
Mi wybum weld y mab mau - yn troi'n rhydd
O hen fagwyrydd dedwydd ei dadau.
Y llanc a welwn trwy'r gwyll yn cilio
I ddeildre hudol werdd Eldorado,
O'i ôl bu'r coed yn wylo, - a nentydd
Yn nhawch annedwydd yn ucheneidio.
Y macwy heulog, paham y ciliodd?
Ba ryw hud anwel o'm bro a'i denodd?
Ei oed a'i eiriau dorrodd , - ac o'i drig
Ddiofal unig efe ddiflannodd.
A'i rhyw ddawn anwar oedd yn ei enaid?
Neu ynteu hiraeth am lawntiau euraid?
O'i ôl mae bro'i anwyliaid - dan wyll trwch
Heb ei wên a'i degwch pur bendigaid.
Minnau o'i ôl yng nghymun awelon,
Troais i gwfert drysi ag afon,
A churiwyd rhychau oerion - i'm deurudd,
Is tawch cywilydd a thristwch calon.
Twrf anniddan y gwynt ar fynyddau,
A gawr allwynin y wig ar llynnau,
Udent ym mhyrth fy nwydau, - oni throes
Gerddi feinioes yn darth a griddfannau.
Un nos oer hunais yn sur ewynnau,
A gwenau aethus y lloergan hithau
Hyd fy hirwallt fu oriau, - a'r crych pêr
Yn wylon dyner fel henoed dannau.
Yno mi gerddais tros drumau gwyrddion
I bau hir-ddedwydd ym mraich breuddwydion;
Hiraeth nid oedd yr awron, - canys caid
Heulwennau euraid a thelynorion.
Yn y bau loyw hon roedd teml ysblennydd
O liwiau breuddwyd a haul boreddydd;
Ac ar ei rhosliw geyrydd - roedd hwyliau
O wyn lumannau fel niwl y mynydd.
Oddi fewn gwelwn orsedd o fynor
Ac arni ogonaid ddi-gryn gynnor;
Ei lais mwyn fel su y môr, - a'i dalaith
O wneuthuriad perffaith rhyw hud porffor.
Yno roedd duwiau cerdd a dyhewyd
A hoen ac asbri pob ieuanc ysbryd;
Nid oedd ŵr annedwydd hyd - y wenfro,
Ac ni bu yno o'r drwg nai benyd.
A dull y gwron di-wall a gerais
Ger allor heulog ar y llawr welais,
Ac yn ei lyfn ysgawn lais - yr awron
Hud ag alawon uwch gwybod glywais.
Cans rhyw dduw â rhin ei fedr dewinol
I'w ganaid wefus roes egni dwyfol;
A rhoed lliw disglair hudol - i'w enaid
O hafau euraid yr oes anfarwol.
A rhoed dyhewyd hendre y duwiau
Yn hud anorfod i'w danllyd nerfau,
A chrisiant serch yr oesau - fel haen ddrud
O ryfedd olud ar ei feddyliau.
Ei law fynoraidd gariai lafn eurad
A heriai dras pob diras ei doriad,
Ac ar ei harddaf safiad - gwelwn ddelw
Un allo farw i ennill ei fwriad.
Yna rhyw faddon o dân rhyfeddol
Welid yno trwy olau dewinol;
Wedi hyn y mab denol - o'i fynwes
I hwnnw a fwries y duw anfarwol.
Codwyd y macwy, ac ymhen ennyd
Doi nodau hudol y duwn dywedyd:
Y mab hwn fydd grym y byd, - a'i eiriau
Yn win y duwiau, yn dân dyhewyd.
"Gwn y bydd creulon droeon i'w drywydd,
A du iawn adwyth a byd annedwydd;
Eithr efe athro a fydd, - yn nysg gêl
Y dyddiau anwel ar oed ddihenydd.
"Didlawd felyswawd y dwyfol oesau
Au gloywaf fiwsig lif o'i wefusau;
Ac yn asur dig nosau - pawb a'i gwêl
Yn lloer dawel ac yn allur duwiau.
"Merchyg fel drycin ar flaen y trinoedd,
A baidd â'i anadl ysgwyd byddinoedd;
Ei wŷs a chwâl lynghesoedd, - a'i nerth maith
Ofwya'n oddaith ar wyllt fynyddoedd.
"Geilw ar fywyd o'i benyd a'i boenau
I fyd didranc yr ieuanc foreau,
Ar oes wen liw rhosynnau - ddaw yn ôl
Ar li anfarwol ei nwyf a'i eiriau.
"Er i helynt y gerrynt ei guro,
A bwrw ei hirnych o'r wybyr arno,
Ni wêl hwn ddim a'i blino, - canys bydd
Awen y gwynddydd pellennig ynddo.
Rhyw ddydd llachar ofwya'r tyrfaoedd
I'w oed urddasol 'rôl dadwrdd oesoedd;
Yna holl wae ei drinoedd - dry'n nerfus
Gân ar wefus moliannus ganrifoedd.
Tros wefus ddi-wrid y pyramidiau
Efe a lefair am ddwyfol hafau;
Ac o'i lyfn gofgolofnau - efe fydd
Duw a thywysydd gorymdaith oesau."
Gwelwn y macwy mwy yn tramwyo
I'w henwlad irad yn ôl i dario;
Ond ar hyd Eldorado - llu mwynllais
Yn dawnsio welais, a'r duw'n noswylio.
Galwyd finnau o 'mreuddwyd mawreddog
Gan wyntoedd oerfin cethrin ysgythrog;
A chanai crych ewynog - ar y traeth
Ogonedd hiraeth fy mron gynddeiriog.
No comments:
Post a Comment